Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 14 Chwefror 2022
Amser:
13.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12610
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Peter Fox AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Anna Adams, Llywodraeth Cymru Andrew Hewitt, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) - Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(6)149 - Rheoliadau Wyau (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
4.1 SL(6)148 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
4.2 SL(6)150 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.3 SL(6)152 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
5.1 SL(6)118 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.
6 Fframweithiau cyffredin
6.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
7 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
7.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd ynghylch y Grŵp Rhyng-Weinidogol: yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
7.2 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: y Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi.
7.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: COP26 rhwng Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
7.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: y Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
8 Papurau i’w nodi
8.1 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
10 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) - trafod y dystiolaeth
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod ei sesiwn gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i ysgrifennu ati i ofyn am ragor o wybodaeth. Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn ei adroddiad hefyd.
11 Trafod cytundebau rhyngwladol
Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:
· Trwyddedau Rheilffordd ar gyfer Cysylltiad Sefydlog y Sianel
· Trwyddedau Gyrru Trenau ar gyfer Cysylltiad Sefydlog y Sianel
a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau yn y cyfarfod nesaf.
12 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (Memorandwm Rhif 3) - trafod y nodyn cyngor cyfreithiol
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunodd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.
13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau (Memorandwm Rhif 2) - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, a chytunodd arno.